Mae Our Bright Future yn cael ei redeg gan bartneriaeth o wyth sefydliad o dan arweiniadYr Ymddiriedolaethau Natur.
Mae gan y bartneriaeth fwy na 40 mlynedd o brofiad ar y cyd o reoli rhaglenni grantiau cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n dod i gyfanswm o bron i £300 miliwn. Mae gan y bartneriaeth enw da am rymuso pobl ifanc.
Mae Grŵp Llywio Our Bright Future yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r sefydliadau hyn, a tri o bobl ifanc. Y Grŵp Llywio yw’r prif grŵp arweinyddiaeth ar gyfer Our Bright Future, gyda chyfrifoldeb am gefnogi’r Ymddiriedolaethau Natur i gyflawni amcanion Our Bright Future, a sicrhau ei fod yn cael yr effaith orau phosib a chreu gwaddol parhaus ar lefel y DU.
Rheolir a gweithredir pob un o’r 31 o brosiectau ym mhortffolio Our Bright Future gan wahanol asiantaethau a sefydliadau arbennigol.