Mae yna ddigon o ffyrdd i gymryd rhan gydag Our Bright Future. Mae llawer o’r prosiectau’n gweithredu ar lefel leol, er bod rhai ar gael ledled y wlad. Cysylltwch â’r tîm os oes gennych ddiddordeb mewn prosiect penodol a gallwn eich rhoi mewn cysylltiad ag arweinydd perthnasol y prosiect.

Cyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn yn recriwtio!
Mae Cyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn yn grŵp o bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed sy’n byw yn Sir Gaerhirfryn, Manceinion a Gogledd Glannau Merswy. Maent yn angerddol am ddiogelu’r amgylchedd lleol, ysbrydoli gweithredu cymdeithasol a chreu newid cadarnhaol. Mae’r Cyngor yn gweithio i greu dyfodol cyfoethog a bioamrywiol i’n hardal, lle mae adferiad natur yn flaenoriaeth, oherwydd fel y dywedodd un aelod o’r Cyngor “Dyfodol natur yw ein dyfodol ni.”
Mae’r Cyngor yn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn rhan greiddiol o waith Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn, fel ei fod wir yn cynrychioli ei gymunedau. Mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn eisiau gweld lleisiau a syniadau pobl ifanc yn disgleirio mwy a mwy yn ei gwaith.
I gael gwybod mwy am y Cyngor a sut i wneud cais, cliciwch yma. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar nos Sul 31 Ionawr 2021. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am y Cyngor, anfonwch e-bost at youthcouncil@lancswt.org.uk.